William Camden

William Camden
Ganwyd2 Mai 1551 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw9 Tachwedd 1623 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Chislehurst Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhynafiaethydd, achydd, llenor, hanesydd Edit this on Wikidata
SwyddClarenceux King of Arms Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amBritannia Edit this on Wikidata
William Camden

Hynafiaethydd a hanesydd o Loegr oedd William Camden (2 Mai 15519 Tachwedd 1623), a aned yn Llundain. Roedd yn hanesydd blaengar a gafodd ddylanwad mawr ar ei gyfoeswyr a'i olynwyr.

Roedd yn fab i arlunydd. Cafodd ei adddysg yn Ysgol Sant Paul, Llundain, a Phrifysgol Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa fel athro (1575) ac yna'n brifathro (1593) yn Ysgol Westminster, Llundain. Bu farw yn Chislehurst, 1623.

Gwaith pwysicaf a mwyaf dylanwadol Camden oedd ei gyfrol Britannia a gyhoeddodd yn Lladin yn 1586 (fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg yn 1610). Arolwg topograffegol o Ynysoedd Prydain ydyw, sy'n cynnwys nodiadau helaeth ar hynafiaethau yn ogystal â manylion daearyddol. Mae'r cyfan wedi'i trefnu fesul sir mewn dull arloesol. Dyma'r gwaith y cyfeirir ato gan amlaf fel "Camden's Britannia" gan hynafiaethwyr y ddwy ganrif olynol fel Thomas Pennant; roedd yn fath o Feibl iddynt. Erys yn ffynhonnell werthfawr iawn am hanes gwledydd Prydain.

Mae ei weithiau eraill yn cynnwys hanes achos llys Guto Ffowc a hanes cronolegol oes y frenhines Elisabeth I o Loegr.


Developed by StudentB